Deiseb Gohirio’r broses o gael 36 Aelod ychwanegol o’r Senedd tan 2030
Byddai gohirio’r broses o weithredu’r Ddeddf berthnasol yn rhoi amser i ymgynghori’n llawn a chanfod gwir farn y cyhoedd am y gost a’r manteision.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef y canlynol: “nid oedd yn bosibl i Lywodraeth Cymru gynnal ei hymgynghoriad cyhoeddus agored ei hun ar gysyniadau cyffredinol diwygio’r Senedd na Bil drafft o fewn yr amserlen a oedd ar gael i ddatblygu’r ddeddfwriaeth.”
- Tudalen 91 o’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fyng â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) https://senedd.cymru/media/xhpg041e/pri-ld16037-em-w.pdf
Rhagor o fanylion
Byddai’r broses o gyflwyno’r Aelodau ychwanegol yn costio dros £80 miliwn.
Mae'r holl wybodaeth am y gost ac ati wedi dod o'r Ddeddf ei hun, ac rwyf wedi darllen pob un o’r 352 o dudalennau ohoni. Rwyf wedi edrych ar waith y Pwyllgor Diwygio ac wedi anfon fy sylwadau at Mr Rees, y Cadeirydd, mewn neges e-bost. Rwyf wedi dyfynnu’r sylwadau yn yr adroddiad gan Syr Bernard Crick, sef: “too many members and the legislature risks becoming bloated and inefficient”. Rwyf wedi nodi mai unig fantais y Ddeddf yw gwella’r swyddogaeth graffu, sy’n cael ei chrybwyll 78 o weithiau, yn ogystal â rhannu ceir gweinidogol, sy’n cael ei chrybwyll unwaith.
Rwyf wedi gwylio nifer o sesiynau craffu, ac rwyf o’r farn bod angen ailwampio’r system graffu yn ei chyfanrwydd, gan gynnal adolygiad cynhwysfawr o bob agwedd ar lywodraeth.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd