Deiseb a gaewyd Rhoi'r gorau i adeiladu ‘ffermydd’ solar diwydiannol yn agos at adeiladau preswyl ac o fewn ffiniau pentrefi
Mae ffermydd solar yn cynyddu ledled y DU a Chymru. Maen nhw’n dod â strwythurau hyll i'n cefn gwlad, ac yn lleihau tir ffermio.
Fe wnaeth y gwyntoedd cryfion a gafwyd yn ystod y tywydd stormus ddifrodi 'ffermydd' solar, gan beri difrod sy’n peri braw i drigolion lleol, oherwydd y risg y bydd paneli solar yn chwalu ar eu tir.
Mae cael ‘ffermydd’ solar ger eiddo preswyl yn gostwng gwerth, ac yn effeithio ar werthiant.
Dyma gynnig ein bod yn cadw ‘ffermydd’ solar i ffwrdd o ardaloedd preswyl, a thu allan i ffiniau pentrefi.
Rhagor o fanylion
https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/huge-storm-wrecked-solar-farm-30556529.amp
https://infrastructure.planninginspectorate.gov.uk/wp-content/ipc/uploads/projects/General/General-Advice-00769-2-Attachment.pdf
http://trefeglwys-solar-farm.co.uk/
https://www.countytimes.co.uk/news/24918555.solar-farm-planned-land-trefeglwys-powys/
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod