Deiseb Atal yr holl daliadau arian cymorth tramor gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys i elusen "Maint Cymru"
Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £775,000 (i fyny o £670,000 y llynedd) i Elusen o’r enw Maint Cymru, dan gadeiryddiaeth y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones.
Yn ôl ei hadroddiad blynyddol, a ffeiliwyd gyda’r Comisiwn Elusennau, mae Maint Cymru yn dweud bod ei gwariant yn cynnwys:
- Sicrhau hawliau tir brodorol ym Mrasil a Chenia
- Adeiladu 'gwydnwch ecosystem' ar gyfer orangwtaniaid yn Indonesia
- Hyrwyddo gwaith rhywedd yng Nghenia a Pheriw
- Adeiladu cwch pŵer solar ym Mheriw i alluogi pobl Wampi i lywio'r afon
Rhagor o fanylion
Tra bod ein GIG mewn sefyllfa ddifrifol.
Mae ein ffyrdd yn llawn tyllau.
Mae'r Senedd yn credu ei bod yn iawn i wastraffu arian trethdalwyr ar brosiectau tramor i borthi balchder sy'n gwneud dim i Gymru na'i phobl.
Nid oes ganddynt unrhyw fandad gan y Ddeddf ddatganoli na’r bobl i wneud hyn. Mae’n rhaid i ni ei atal.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd