Deiseb Cyflwyno uchafswm canrannol ar y swm y gall cyngor yng Nghymru gynyddu’r Dreth Gyngor, fel sy’n digwydd yn Lloegr

Gall unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor roi straen ariannol ar drigolion, yn enwedig mewn cyfnod o heriau economaidd. Yng Nghymru, mae rhai cynghorau wedi cynyddu eu cyfraddau’n sylweddol, gan effeithio ar fforddiadwyedd i deuluoedd a busnesau. Byddai cap o 4.99% yn sicrhau bod y broses o gynyddu’r dreth gyngor yn deg ac yn rheoledig, a byddai hefyd yn caniatáu i gynghorau ariannu gwasanaethau hanfodol. Byddai'r polisi hwn yn sicrhau sefydlogrwydd, yn atal unrhyw gynnydd gormodol, ac yn diogelu cymunedau rhag beichiau ariannol anghymesur. Rydym yn annog y Llywodraeth i roi’r cap hwn ar waith.

Llofnodi’r ddeiseb hon

3 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon