Deiseb a gwblhawyd Dylid cymryd camau brys i wella'r GIG yng Ngorllewin Cymru, a mynd i'r afael â'r argyfwng yn Ysbyty Glangwili.

Mae lleihau/cau gwasanaethau mewn ysbytai eraill ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda wedi achosi argyfwng yng Nglangwili. Mae cleifion yn gorfod teithio pellteroedd mawr i gyrraedd gofal brys, gan felly gynyddu dibyniaeth ar ambiwlansys.

Rhagor o fanylion

Nid yw'r Uned Penderfyniadau Clinigol (CDU) bellach yn weithredol fel Uned Penderfyniadau Clinigol go iawn ac mae'n gweithredu fel ward, gyda chleifion sâl yn cael eu gorfodi i gysgu mewn cadeiriau yn yr Uned honno neu i aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys gan nad oes lle ar ward i'w derbyn i’r ysbyty. Mae staff y GIG yn gwneud eu gorau ond mae'r sefyllfa'n anghynaladwy.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,304 llofnod

Dangos ar fap

10,000