Deiseb Cynnull uwchgynhadledd i gyflymu buddsoddi cynaliadwy a moesegol gan bensiynau’r sector cyhoeddus.
Mae gan wyth pensiwn llywodraeth leol Cymru, a reolir drwy Bartneriaeth Pensiynau Cymru, gyfanswm asedau gwerth £25 biliwn (31 Mawrth 2024). Mae polisi Buddsoddiad Cyfrifol, ond mae asedau gwerth miliynau o bunnoedd mewn buddsoddiadau sy’n niweidiol i bobl a’r blaned megis tanwyddau ffosil, datgoedwigo, arfau, a chwmnïau sy’n gysylltiedig â thorri hawliau dynol.
Rhagor o fanylion
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau a gweithio tuag at wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Mae un o’r nodau llesiant yn galw am i Gymru fod yn ‘Genedl sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang’. Mae Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi galw ar gyrff cyhoeddus Cymru i gynnal adolygiad brys o fuddsoddiadau pensiwn y sector cyhoeddus i sicrhau eu bod yn foesegol ac yn gynaliadwy.
Ar hyn o bryd, mae Rachel Reeves, Canghellor y DU, yn cynnig cyfuno holl gronfeydd pensiwn llywodraeth leol Cymru a Lloegr mewn nifer fach o gronfeydd cyfun a newid eu trefniadau llywodraethu. Mae’n hanfodol i gronfeydd Cymru gael eu cyfeirio at fuddsoddiadau moesegol a chynaliadwy a all fod o fudd ymarferol i bobl ac amgylchedd Cymru yn hytrach na chreu niwed yma a thramor. E.e. tai cymdeithasol cynaliadwy, coedwigaeth adfywiol, ynni gwyrdd lleol, trafnidiaeth werdd, adfer natur.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd