Deiseb Rhoi'r gorau i orfodi plant ysgol i ddadwisgo o flaen staff/cyfoedion mewn ystafelloedd newid 'agored'.

Mae plant mewn addysg uwchradd yn haeddu preifatrwydd a diogelwch, ac i beidio â theimlo eu bod yn cael eu gorfodi i ddadwisgo o flaen eu cyfoedion/staff mewn ystafelloedd newid cyffredin, agored ar gyfer pwnc gorfodol (er eu bod wedi’u gwahanu yn ôl rhyw ar hyn o bryd). Mewn byd lle mae plant yn cael eu hymgrymuso i fod yn nhw eu hunain, ac i archwilio’r cysyniadau o rywedd, hawliau, cydraddoldeb a chynhwysiant, nid yw rhai cyfleusterau newid ar gyfer addysg gorfforol mewn ysgolion cyfun yn cynnig fawr ddim preifatrwydd/urddas, os o gwbl, ac mae hynny'n peri pryderon mawr o ran diogelu.

Rhagor o fanylion

Mae gan blant yr hawl i breifatrwydd ac i fod yn ddiogel, felly ni ddylai newid mewn ystafell newid gyffredin, agored deimlo’n orfodol. Mae gan oedolion yr hawl i ddewis ond nid plant, oherwydd bod y cyfleusterau annigonol presennol yn cael eu rhannu gan ddosbarthiadau mawr, ac mae hwn yn fater o ddiogelu. Mae gan bobl ifanc yr hawl i breifatrwydd (Erthygl 16, CCUHP), felly mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ddatrys y mater hwn cyn gynted â phosibl, gyda chefnogaeth y Llywodraeth.
Argymhellir canllawiau clir ar gyfer cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel tra eu bod newid, am resymau sy’n cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:
- mae rhai plant yn teimlo'n agored i niwed/mae plant yn agored i niwed;
- gall achosi pryder;
- anableddau;
- plant o wahanol grefyddau, credoau a chefndiroedd diwylliannol, neu blant sy’n drawsryweddol, anneuaidd neu’n cwestiynu eu hunaniaeth o ran rhywedd;
- gall staff a gwirfoddolwyr deimlo'n ansicr ynghylch goruchwylio ystafelloedd newid a sut i sicrhau bod pob plentyn ac oedolyn yn ddiogel; a
- bod yn sensitif i'r unigolion hynny sy'n aeddfedu'n gorfforol yn llawer cynharach neu’n hwyrach na'u cyfoedion.

Llofnodi’r ddeiseb hon

551 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon