Deiseb a wrthodwyd Annog sefydliadau sy'n cynnig gweithgareddau hamdden i blant ac oedolion i ddarparu ar gyfer unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Mae gan 2.5% o'r boblogaeth yn y DU anawsterau dysgu.
Mae cyfleoedd ar gyfer hamdden yn gyfyngedig iawn i'r rhai sydd ag anawsterau dysgu o'u cymharu â'r unigolion nad oes ganddynt anawsterau. Y gwir yw y dylai pob busnes sy'n cynnig gweithgareddau hamdden i oedolion a phlant hefyd gynnig sesiynau rheolaidd sy'n addas ar gyfer rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ac ADY yn unig). Ni ddylai rhieni/gofalwyr ddibynnu mwyach ar elusennau sy'n trefnu gweithgareddau neu fusnesau sy'n cynnig cyfleoedd anaml ac ar hap.
Rhagor o fanylion
Dylai nifer y sesiynau unigryw fod yn gymesur â nifer y plant a'r oedolion ag anawsterau dysgu (2.5%). Gellid cyhoeddi'r cyfleoedd hyn ar gronfa ddata ganolog fel y gallai rhieni/gofalwyr gael mynediad atynt.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi