Deiseb Agor y cyfleusterau hamdden ar hen ganolfan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan, Bro Morgannwg i'r cyhoedd

Nid oes digon o ddarpariaeth rygbi cadair olwyn yng Nghymru ar gyfer y rhai ag anableddau corfforol. Mae dros 25,000 o bobl anabl cofrestredig ym Mro Morgannwg yn unig ac rwyf am greu darpariaeth inni allu chwarae rygbi cadair olwyn, sy’n gamp anhygoel. Nid oes gan Fro Morgannwg leoliadau fforddiadwy ac addas i hyfforddi a chwarae'r gamp, nid yw hen safle'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan yn cael ei ddefnyddio'n ddigonol ac mae ganddo gyfleuster chwaraeon addas y gellid ei ddefnyddio ar gyfer rygbi cadair olwyn.

Rhagor o fanylion

Rwyf wedi ceisio creu’r ddarpariaeth hon o’r blaen (2023), ond fe wnaeth sefydliad Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr fy rhwystro trwy wrthod darparu’r cadeiriau olwyn chwaraeon angenrheidiol i mi (maen nhw’n costio £5000 yr un). Dywedodd Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr fod cyflwr rygbi cadair olwyn yng Nghymru yn wael ac na fydd yn cefnogi clwb arall sy’n methu. Esboniais nad ydw i'n methu a bod gen i chwaraewyr yn barod, a chefnogaeth gan yr awdurdod lleol - yr unig beth oedd ar goll oedd cadeiriau olwyn. Y tro hwn rwy’n hyderus y gellir sicrhau cyllid gan Chwaraeon Cymru ar gyfer y cadeiriau.

Llofnodi’r ddeiseb hon

133 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon