Deiseb Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon caiff cŵn eu gwahardd o draethau rhwng 1 Mehefin a 15 Medi (yn gynwysedig)

Yn Lloegr, ee Cernyw, caiff cŵn eu gwahardd am gyfnod byrrach, rhwng 15 Mai a 30 Medi ar draethau'r Faner Las a chyfnod gwyliau'r ysgol rhwng 1 Gorffennaf a 31 Awst ar draethau eraill, ond caniateir mynediad i gŵn hefyd y tu allan i oriau, rhwng 6pm a 10am.
Yng Nghymru gymylog, lawog a gwyntog, cyfnod y gwaharddiad yw 1 Mai tan 30 Medi neu hyd yn oed yn hirach (heb DDIM eithriadau amser y tu allan i oriau) gan fod yn berthnasol i rai traethau cyffredinol, gwobrau Arfordir Glas a thraethau’r Faner Las. Mae hyn 2 wythnos hyd yn oed cyn dechrau'r tymor ymdrochi swyddogol ar 15 Mai o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 Cymru a Lloegr.
Nid oes UNRHYW ragdybiaeth y dylai’r Faner Las gwmpasu traeth cyfan neu y dylid gosod eu tymor rhwng 15 Mai a 30 Medi (neu hyd yn oed o 1 Mai!) na gwahardd mynediad y tu allan i oriau. Dywed Cadwch Gymru'n Daclus (sy'n llunio dosbarthiad traethau'r Faner Las yng Nghymru) mai mater i'r corff sy'n gwneud y cais yw penderfynu pa mor hir fydd tymor y Faner Las o fewn amserlen y tymor Dŵr Ymdrochi ac ystyriaethau eraill.
Mae perchnogion cyfrifol cŵn yn clirio ar eu hôl ac yn helpu i addysgu a phlismona eraill. Maent yn cydnabod ei bod yn werth gwahardd cŵn o draethau prysur yn yr haf. Ond maen nhw wedi cael digon ar gael eu gwahardd o draethau gwag am 5 mis o'r flwyddyn heb ddim rheswm da o gwbl.
Mae adnoddau Awdurdodau Lleol yn brin, ac ni allant fforddio plismona cŵn o draethau yn ddiangen. Byddai cyfnod caeedig byrrach a gefnogir yn well i gerdded cŵn yn lleihau’r baich arnynt.
Mae adolygiad o amseriad cŵn ar draethau yn cyd-fynd ag ymgynghoriad diweddar (Tachwedd 2024) Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013. I gynorthwyo hyblygrwydd mae llywodraethau yng Nghymru a Lloegr wedi cefnogi dileu rheoliad 4 (tymor ymdrochi sefydlog) o'r rheoliadau i ganllawiau.

Rhagor o fanylion

Rydym ni, berchnogion cyfrifol ar gŵn yng Nghymru, yn galw ar y Senedd i gydnabod gwerth cŵn - yn gymdeithasol, i economi Cymru, i'n twristiaeth ac i iechyd a llesiant perchnogion cŵn. Hefyd, rinweddau cerdded cŵn ar draethau eang yn hytrach na chaeau, llwybrau neu barciau mwdlyd.
Gofynnwn i'r Senedd drafod y mater a chefnogi Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i Awdurdodau Lleol Cymru (All), Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus y dylai'r cyfnod gwaharddiad diofyn ar gŵn o draethau Cymru ddilyn cyfnod Cernyw, ar y cyfan, sef 1 Gorffennaf - 31 Awst a gyda mynediad ychwanegol o 6 - 10 y tu allan i oriau, ac eithrio pan fo Awdurdodau Lleol yn cyflwyno achos dros waharddiad hirach. Pan fydd ALl yn galw am waharddiad hirach, dylai ystyried argaeledd cyfleoedd cerdded ar draeth cyfagos ac effeithiau cymdeithasol ac economaidd.

Llofnodi’r ddeiseb hon

304 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon