Deiseb Gwrthdroi’r Penderfyniad i Gau Cyrsiau Cwnsela a Seicotherapi Ôl-raddedig ym Mhrifysgol De Cymru

Rydym yn annog Prifysgol De Cymru i wrthdroi ei phenderfyniad i gau cyrsiau cwnsela a seicotherapi allweddol. Mae'r rhaglenni hyn yn darparu hyfforddiant hanfodol ac yn cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl lleol. Bydd colli’r cyrsiau’n lleihau mynediad at therapyddion cymwys ac yn gorfodi myfyrwyr i hyfforddi yn Lloegr. Rhaid i Brifysgol De Cymru ymgynghori â myfyrwyr a rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddod o hyd i ateb sy'n diogelu’r cyrsiau hanfodol hyn.

Rhagor o fanylion

Mae myfyrwyr ar y cyrsiau hyn yn rhoi cefnogaeth hanfodol i elusennau, ysgolion, a gwasanaethau'r GIG. Bydd eu habsenoldeb yn gwaethygu'r straen ar ddarpariaethau sydd eisoes wedi'u gorymestyn.
Heb unrhyw hyfforddiant seicotherapi ôl-raddedig Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain arall yng Nghymru, rhaid i fyfyrwyr deithio i Loegr, gan gynyddu heriau ariannol a logistaidd. Mae hyn yn effeithio'n anghymesur ar fyfyrwyr aeddfed a'r rheini o gefndiroedd incwm is, gan leihau amrywiaeth yn y proffesiwn.
Nid yw Prifysgol De Cymru wedi dilyn ei pholisïau ei hun ar ymgynghori, gan fethu ag ymgysylltu â myfyrwyr a rhanddeiliaid cyn gwneud penderfyniadau.
Mae'r cyrsiau hyn yn hanfodol ar gyfer hyfforddi gweithwyr proffesiynol medrus a sicrhau cymorth iechyd meddwl hygyrch. O ystyried y galw cynyddol am wasanaethau, mae'r penderfyniad hwn yn gibddall ac yn niweidiol.
Rydym yn annog Gweinidogion Cymru a Phrifysgol De Cymru i ailystyried ac i archwilio atebion amgen, megis ailstrwythuro rhaglenni neu sicrhau cyllid ychwanegol. Mae diogelu’r cyrsiau hyn yn hanfodol ar gyfer dyfodol cwnsela a seicotherapi yng Nghymru.

Llofnodi’r ddeiseb hon

435 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon