Deiseb Cynyddu buddsoddiad a gweithredu mewn rheoli llifogydd ar sail natur i amddiffyn cymunedau Cymru.
Mae llifogydd yn effeithio ar 1 o bob 8 eiddo yng Nghymru, gan achosi trasiedi i lawer. Rydym ni, Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gynyddu buddsoddiad a gweithredu tuag at reoli llifogydd ar sail natur i amddiffyn cymunedau yn well, gwella llesiant meddyliol, ac adfer iechyd afonydd. Rydym yn annog dyrannu o leiaf 10% o arian atal llifogydd tuag at reoli llifogydd ar sail natur.
Rhagor o fanylion
Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried:
- Cynnwys cymorth i ffermwyr yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i wella llystyfiant, plannu coed, ac adfer cynefinoedd;
- Cadw'r ymrwymiad i gyflwyno afancod mewn mannau addas;
- Creu ardaloedd cadwraeth ar hyd gorlifdiroedd naturiol i wella gwydnwch a bioamrywiaeth.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd