Deiseb Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Mae camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn un o ddyfrffyrdd mwyaf prydferth a thawel y DU. Mae’n ymdroelli drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a thrwy lawer o gymunedau gwledig a threfol, gan ymlwybro o Aberhonddu, drwy Dal-y-bont ar Wysg ac ymlaen drwy Lanfa Goetre tuag at Gasnewydd. Mae’n hanfodol i’r trigolion a’r cymunedau cyfagos, gan ddenu tua 3 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol ac yn galluogi’r cymunedau hyn i ffynnu.
Rhagor o fanylion
Ers ei sefydlu drwy Ddeddf seneddol yn 1792, mae'r gamlas wedi dibynnu ar ddŵr sy’n cael ei dynnu o afon Wysg a'i llednentydd. Daw 80% o'r dŵr sydd ei angen arni o'r afon Wysg yn Aberhonddu. Nid yw'r dŵr yn cael ei 'lyncu' gan y gamlas, gan ei fod yn dychwelyd i'r afon unwaith y bydd wedi cwblhau’r daith. Tan yn ddiweddar, nid oedd angen trwydded i dynnu dŵr. Ers 200 mlynedd, gellid gwneud hyn yn rhad ac am ddim. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’r gamlas, a reolir gan Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru (elusen), gael trwydded a chyfyngu ar y dŵr y mae’n ei dynnu. Heb gyflenwad dyddiol o ddŵr drwy ei lociau, bydd y gamlas yn mynd yn anweithredol yn gyflym, a byddai cau yn anochel. Mae'n anodd dychmygu beth fyddai’r canlyniadau o ran cynnal bywoliaeth yn ein cymunedau, yr amgylchedd naturiol a'r economi leol. Gall peidio â rheoli camlas arwain at fethiant trychinebus a dinistrio eiddo cyfagos. Mae Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi y byddant yn cyflenwi lefel gynhaliol o ddŵr, ond am gost afresymol na all yr elusen ei fforddio.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd