Deiseb Cefnogi ymgyrch #Canwedoitdifferent i hyrwyddo hygyrchedd ledled Cymru

Helo. Fy enw i yw Jen, ac rwyf yn ddall yn gyfreithiol. Nid wyf yn defnyddio ffon neu gi tywys eto, ac felly mae fy anabledd yn anabledd cudd, i raddau helaeth. Rwy'n codi ymwybyddiaeth pobl sy'n byw gyda GWAHANIAETHAU, ac rwyf wir yn credu y gall gwelededd, dealltwriaeth a chynhwysiant gael effaith go iawn. Fy nod yw chwalu rhwystrau, a chreu byd lle mae pawb – waeth beth fo'u gwahaniaethau – yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi a'u grymuso i fyw eu bywydau fel y fersiynau mwyaf dilys ohonyn nhw eu hunain.

Rhagor o fanylion

Mae ymgyrch 'AskforAngela' wedi ysbrydoli’r ymgyrch hon, ac os oes modd inni ddangos llwyddiant yng Nghymru, gallai hynny arwain at newid ar draws y DU. Yn ôl y gyfraith, rhaid i leoedd fel clybiau nos wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl ag anableddau neu wahaniaethau, ond nid yw'r gyfraith yn cael ei dilyn yn ymarferol mewn llawer o achosion. Pan fyddwn yn eistedd mewn bwytai, bydd y staff bob amser yn gofyn a oes gennym alergeddau, ond ni fyddant yn gofyn a oes gennym anghenion hygyrchedd. Mae gennym y pŵer i newid ein diwylliant er mwyn cynnwys pobl sy'n byw gyda gwahaniaethau yn well, fel y gallant gymryd rhan yn ein mannau cymunedol. Rwyf am ddefnyddio’r fenter hon i ddangos i’r DU ehangach fod hygyrchedd yn bwysig i Gymru, ac rydym am sicrhau bod ein cymunedau yn teimlo fel lleoedd diogel sy’n cael eu cefnogi, a hynny heb eithrio pobl ag amhariad ar eu lleferydd, amhariad ar eu golwg, amhariad corfforol neu rwystrau iechyd meddwl. Rwy’n angerddol am sicrhau bod hyn yn digwydd yn ddwyieithog. Hefyd, yn sgil y newidiadau arfaethedig i’r drefn ar gyfer y Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP), dyma gyfle i ddangos i’n pobl eu bod nhw yn bwysig a’u bod nhw yn perthyn yma yng Nghymru.

Llofnodi’r ddeiseb hon

112 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon