Deiseb Achub chwaraeon ar lawr gwlad – Rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy!
Mae chwaraeon ar lawr gwlad dan fygythiad ym Mwrdeistref Sirol Caerffili a thu hwnt. Mae ein cyngor lleol yn ceisio mantoli'r cyfrifon trwy godiadau uwch na chwyddiant i ffioedd lleiniau, gan roi baich annheg ar glybiau cymunedol. Daw hyn er bod cyfleusterau fel Abercarn Welfare mewn cyflwr dychrynllyd y tymor hwn.
Rhagor o fanylion
Mae gwirfoddolwyr eisoes yn rhoi o’u hamser a’u hymdrech i gadw chwaraeon ar lawr gwlad yn fyw—pam y dylid disgwyl iddynt lenwi’r bwlch ariannu a adawyd gan ein cynghorau? Os na all awdurdodau lleol gefnogi chwaraeon cymunedol mwyach, rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy i sicrhau bod y clybiau hanfodol hyn yn goroesi.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud fel a ganlyn:
⚽ Darparu arian brys i dalu ffioedd cynyddol am leiniau
🏉 Datblygu strategaeth hirdymor i amddiffyn clybiau chwaraeon cymunedol
🏏 Dal cynghorau yn gyfrifol am gynnal a chadw cyfleusterau chwaraeon
Heb weithredu, bydd clybiau’n dod i ben, cyfleoedd i chwaraewyr ifanc yn diflannu, a chwaraeon ar lawr gwlad yn dioddef. Llofnodwch y ddeiseb hon i fynnu cefnogaeth frys ar gyfer dyfodol ein cymunedau!
#SaveOurSports #FundGrassroots #FairPlayForClubs
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd