Deiseb Achub Megafobia! Adleoli ac ailadeiladu Megafobia yn Amgueddfa Hanes Genedlaethol Sain Ffagan.
Megafobia yw un o’r adeiladweithiau mwyaf eiconig yn hanes Cymru ac sy’n cael ei gydnabod yn fyd-eang. Mae'n ymddangos yn sarhaus i'w etifeddiaeth ac eiconograffeg De Cymru pe bai'n cael ei adael i ddirywio gan fod Parc Antur Oakwood bellach wedi cau.
Dylai Megafobia gael ei ddatgymalu a’i ailadeiladu fesul tipyn yn Amgueddfa Hanes Genedlaethol Cymru Sain Ffagan fel cynrychioliad o fywyd yn Ne Cymru yn yr 20fed/21ain Ganrif a rhoi dogn o hiraeth llawn adrenalin i bobl Cymru.
Rhagor o fanylion
Am flynyddoedd lawer, cafodd Megafobia ei bleidleisio’n un o’r 10 roler-costers pren gorau yn y byd gan Golden Ticket, ac mae pobl o bob cwr yn gwirioni arno.
Mae nifer y bobl sy’n ymweld â Sain Ffagan yn dal i fod yn is na'r lefelau cyn Covid, felly pa ffordd well o gynyddu’r niferoedd nag arddangosfeydd newydd cyffrous fel y roler-coster pren gorau y mae’r DU erioed wedi’i weld.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd