Deiseb a wrthodwyd Cryfhau elfen addysg wleidyddol y canllawiau statudol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion uwchradd

Pobl ifanc yw dyfodol Cymru, a chredaf fod angen i bobl ifanc gael addysg ar system wleidyddol y DU, ei phleidiau, ei heriau a’i hetholiadau. Er bod cymharu a gwerthuso systemau llywodraethu, a ‘hawliau a chyfrifoldebau dinasyddion’, wedi’u cynnwys yn y canllawiau statudol ar gyfer pobl ifanc 16 oed (erbyn Cam Cynnydd 5), dylid cryfhau’r canllawiau hyn i roi llawer mwy o bwyslais ar addysg wleidyddol yn cael ei haddysgu fel rhan o’r cwricwlwm ysgol o 14 oed ymlaen.

Ni fydd gan bob person ifanc ddiddordeb, mae’n siŵr, fodd bynnag, mae ei angen fel y gallant fod yn rhan o’n democratiaeth a’i gweithdrefnau democrataidd.

Rhagor o fanylion

Cynhaliodd y Comisiwn Etholiadol arolwg o 2,516 o bobl ifanc y llynedd, a dim ond 45% ohonynt ddywedodd fod ganddyn nhw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac mae hynny’n gostwng i 36% wrth drafod gwleidyddiaeth leol. Ffynhonnell: https://www.electoralcommission.org.uk/sites/default/files/2025-03/Young%20Voices%20on%20Democracy%202025.pdf

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi