Deiseb Dylid atal cleifion o Bowys a gaiff eu trin mewn ysbytai dros y ffin yn Lloegr rhag wynebu amseroedd aros hwy
Mae angen gweithredu ar frys i atal cleifion o Bowys a gaiff eu trin mewn ysbytai yn Lloegr rhag wynebu amseroedd aros hwy. Cytunwyd ar y penderfyniad hwn yng nghyfarfod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 26 Mawrth 2025:
https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/y-bwrdd/cyfarfodydd-y-bwrdd/2025/26-mawrth-2025/
Mae hyn yn gyfystyr â thrin cleifion Powys fel dinasyddion eilradd. Mae targedau Cymru yn berthnasol i ysbytai yng Nghymru, ac ni ddylai’r targedau hynny fod yn berthnasol i'r cleifion o Gymru sy'n cael eu trin yn Lloegr. Ar 25 Ionawr 2025 adroddwyd bod y Prif Weinidog wedi dweud 'Nid wyf am weld pobl ym Mhowys yn dioddef, ac yn sicr nid wyf am iddynt fynd i gefn y ciw os ydynt yn mynd i gael eu trin dros y ffin yn Lloegr.'
Eluned Morgan yn siarad am gynlluniau Bwrdd Iechyd Powys o ran aros | County Times
Dylid annog Llywodraeth Cymru i wneud iawn am y diffyg, ac ariannu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn deg ar gyfer Powys.
Rhagor o fanylion
Mae Ymddiriedolaeth Ysbytai Amwythig a Telford wedi rhyddhau datganiad am y cam hwn, ac wedi annog cleifion i fynd i’w hapwyntiadau fel arfer. Dywedodd Ned Hobbs, Prif Swyddog Gweithredu, Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford (SaTH):
“Rydym yn parhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gynllunio a gweithredu eu bwriadau o ran comisiynu gwasanaethau ar gyfer 2025/26.
“Rydym yn deall fod y Bwrdd Iechyd yn ystyried mesurau ychwanegol o fis Gorffennaf 2025 ymlaen, a bod rhagor o wybodaeth i’w rhannu yn ddiweddarach y gwanwyn hwn. Rydym yn annog pob claf i fynd i’w apwyntiadau a’i archwiliadau fel arfer.”
https://www.countytimes.co.uk/news/25039189.reaction-vote-increase-powys-patient-times/
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd