Deiseb Gwrthdroi’r penderfyniad ar y “Gwaharddiad Bwyd Brys” (cael dau am bris un, ail-lenwi diodydd am ddim, ac ati)

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd i fynd i’r afael â gordewdra, gan wahardd o fis Mawrth 2026 fwydydd nad ydynt yn iach fel siocled, creision a diodydd llawn siwgr o fannau allweddol mewn archfarchnadoedd (a mwy, gweler isod). Mae rhai’n cefnogi’r cam i atal prynu byrbwyll ac annog dewisiadau iachach, ond mae eraill yn dadlau bod gwneud hyn yn cyfyngu ar ryddid personol. Mae beirniaid yn credu y dylai’r ffocws fod ar well addysg bwyd, opsiynau iach hygyrch, a chefnogi ffyrdd gweithgar o fyw, yn hytrach na chyfyngu ar ddewisiadau defnyddwyr.

Rhagor o fanylion

Bydd hyn hefyd yn golygu gwahardd bargeinion dau am bris un mewn siopau sy’n rhan o gadwyn o 10 neu ragor o siopau, a chael gwared ar ail-lenwi diodydd am ddim mewn bwytai poblogaidd yr ystyrir eu bod yn foethus ac nid lleoedd y mae pobl yn ymweld â nhw yn aml iawn oherwydd costau.
Gallwch ddarllen rhagor yma, gan gynnwys barn pobl am y pwnc: https://www.bbc.co.uk/news/articles/cz7v43w3yq0o

Rwy’n credu’n gryf y dylai oedolion gael y rhyddid i ddewis drostynt eu hunain, gan gynnwys beth maen nhw’n ei fwyta. Mae Cymru’n dod yn “wladwriaeth nani”, gyda mesurau fel y terfyn cyflymder 20mya a gwahardd arddangos bwyd, sy’n peri pryder mawr. Yn hytrach na chyfyngu ar opsiynau, dylem ganolbwyntio ar atebion rhagweithiol fel addysgu plant i goginio prydau iach, a fyddai’n dylanwadu ar deuluoedd. Mae grymuso unigolion i wneud dewisiadau gwybodus, nid cyfyngu ar ryddid, a chanolbwyntio ar gostau yn y wlad hon lle mae chwyddiant yn rhemp, yn allweddol i fynd i’r afael â gordewdra a gwella iechyd y cyhoedd.

Llofnodi’r ddeiseb hon

3 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon