Deiseb Adolygu sut mae ffigurau presenoldeb ysgolion yn cael eu defnyddio i farnu perfformiad ysgolion yng Nghymru

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio sut mae data presenoldeb ysgolion yn cael eu defnyddio i asesu perfformiad ysgolion ac i sicrhau bod polisïau presenoldeb yn cael eu cymhwyso mewn ffordd deg a chynhwysol ac yn ystyriol o drawma.

Yn aml, mae polisïau presennol yn defnyddio’r un dull i bawb, gan anwybyddu'r rhesymau cymhleth y tu ôl i absenoldeb disgyblion. Mae ysgolion sydd â nifer uchel o ddisgyblion ADY yn aml yn nodi cyfraddau absenoldeb uwch, yn aml am resymau meddygol neu therapiwtig dilys, ond mae'r ysgolion hyn yn dal i gael eu barnu yn erbyn ffigurau presenoldeb crai. Mae hyn yn creu canfyddiad camarweiniol ynghylch effeithiolrwydd ysgolion a gall stigmateiddio ysgolion a theuluoedd yn annheg.

Mae trothwyon presenoldeb llym hefyd yn effeithio'n anghymesur ar blant sydd eisoes ar yr ymylon. Dim ond os yw presenoldeb yn fwy na chanran benodol, fel 95%, y caniateir absenoldeb yn ystod y tymor gan rai ysgolion. Gall hyn arwain at driniaeth anghyfartal—er enghraifft, gwrthod absenoldeb i blant sy'n gwella o drawma meddygol neu sydd am ddathlu gwyliau crefyddol, tra'n caniatáu gwyliau i'w cyfoedion heb unrhyw anghenion iechyd nac anghenion ychwanegol.

Rhagor o fanylion

Er y gall ysgolion egluro absenoldebau i Estyn neu awdurdodau lleol, mae'r pwysau i gynnal ystadegau presenoldeb uchel yn parhau. Gall hyn roi straen ar berthnasoedd rhwng ysgolion a theuluoedd, yn enwedig o ystyried mai rhieni sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu a yw eu plentyn yn ddigon iach yn feddyliol neu'n gorfforol i fynd i’r ysgol.

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod data presenoldeb yn cael eu dehongli gyda mwy o graffter a bod polisïau'n hyrwyddo cynhwysiant, llesiant a thegwch. Mae hyn yn cynnwys cydnabod bod rhai absenoldebau yn ddilys, lleihau dibyniaeth ar ganrannau crai, a chefnogi ysgolion i fabwysiadu dull mwy hyblyg, sy'n canolbwyntio ar y teulu.

Llofnodi’r ddeiseb hon

23 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon