Deiseb Newid y gyfraith. Rhoi pŵer i Awdurdodau Lleol erlyn modurwyr sy'n taflu sbwriel o'u ceir.
Ar hyn o bryd nid oes deddfwriaeth yng Nghymru a fyddai’n caniatáu i Awdurdodau Lleol erlyn gyrwyr sy'n taflu sbwriel. Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol yw glanhau sbwriel o’r ffyrdd sy’n mynd trwy ei ardal. I glirio’r sbwriel, rhaid i’r rhannau o’r ffordd sydd nesaf at lain y ffordd gael eu cau â chonau i gadw’r gweithwyr yn ddiogel. Mae'n costio miloedd o bunnoedd, gyda'r arian yn dod o gyllideb gyfyng y cyngor dan sylw. Yn Lloegr, mae deddfwriaeth yn bodoli i osod dirwyon sylweddol ar fodurwyr am y drosedd hon.
Rhagor o fanylion
Mae sbwriela o gerbydau wedi mynd yn endemig yng Nghymru. Peth prin yw gyrru ar hyd ffordd a pheidio â gweld darnau o sbwriel. Nid yn unig y mae’r rhain yn hyll, maen nhw hefyd yn achosi perygl mawr i'n bywyd gwyllt sy'n cyflym brinhau. Mae Cymru'n dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth, ond pan y ffyrdd i mewn i’n hardaloedd harddaf fel Bannau Brycheiniog a'r Mynyddoedd Duon yn gyson yn sbwriel i gyd, mae pobl yn colli diddordeb mewn dod yma, yn enwedig ymwelwyr o wledydd tramor lle mae taflu sbwriel yn beth pur anghyffredin. Mae angen deddfwriaeth a fyddai’n arf cryf o ran atal sbwriela.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd