Deiseb Gofyn am arwyddion mewn parciau i helpu i amddiffyn plant ag alergeddau
Rydym yn galw ar gynghorau lleol ac awdurdodau parciau i gyflwyno arwyddion syml, ond hanfodol, ym mhob parc cyhoeddus:
"Peidiwch â bwyta wrth ddefnyddio'r offer chwarae - helpwch i gadw'r lle hwn yn ddiogel i bawb."
Gall alergeddau bwyd fod yn fygythiad i fywyd, ac mae llawer o deuluoedd yn byw gyda'r pryder cyson o adweithiau cyswllt damweiniol. I blant ag alergeddau difrifol, yn enwedig i fyrbrydau cyffredin fel creision, gall hyd yn oed olion bach o fwyd ar offer sbarduno ymateb difrifol.
Rhagor o fanylion
Fel rhieni a gofalwyr, rydym am i'n plant fwynhau mannau awyr agored yn union fel unrhyw blentyn arall. Yn anffodus, rydym wedi gorfod gadael parciau oherwydd adweithiau alergaidd a achosir gan weddillion bwyd wedi'u gadael ar offer chwarae.
Nid yw hyn yn ymwneud â chyfyngu ar fwynhad unrhyw un - mae'n ymwneud â chynhwysiant a diogelwch. Mae arwydd syml yn ffordd gynnil o atgoffa pobl y gall bwyta wrth ddringo, siglo neu lithro roi eraill mewn perygl. Mae'n codi ymwybyddiaeth ac yn annog pobl i fod yn garedig mewn mannau cyhoeddus a rennir.
Credwn y gallai'r newid bach hwn wneud gwahaniaeth mawr wrth ganiatáu i bob plentyn – gan gynnwys y rhai ag alergeddau – chwarae'n ddiogel ac yn hyderus yn ein parciau.
Llofnodwch y ddeiseb hon i ddangos eich cefnogaeth i arwyddion i godi ymwybyddiaeth o alergeddau.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd