Deiseb Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru 

Yng Nghymru, mae cleifion ar hyn o bryd yn cael gofal ar drolïau neu mewn cadeiriau am oriau maith, yn aml am ddyddiau, mewn poen a dioddefaint. Mae meddygon, nyrsys a staff gofal iechyd yn cael eu gorfodi i drin a gofalu am gleifion mewn coridorau, meysydd parcio, a mannau eraill lle nad yw gofal diogel ac urddasol yn bosibl a lle nad oes ganddynt offer achub bywyd wrth law. 

Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru a BMA Cymru ar y cyd yn canu larwm am ddiogelwch cleifion er mwyn i Lywodraeth Cymru roi diwedd ar ofal mewn coridorau.

Rhagor o fanylion

Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol a’r BMA yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar unwaith i wneud y canlynol: 
1. Dechrau cofnodi ac adrodd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru, gan ddechrau drwy ei wneud yn 'ddigwyddiad byth' i gleifion gael gofal mewn cadeiriau am fwy na 24 awr.
2. Rhoi saib ar leihau nifer y gwelyau yn ysbytai GIG Cymru. Adolygu capasiti yn genedlaethol a darparu cynllun gweithlu clir, wedi’i gostio, i sicrhau bod ysbytai a lleoliadau gofal ehangach yn gallu bodloni’r galw yn y dyfodol.
3. Buddsoddi mewn gofal yn y gymuned drwy:
• gynyddu nifer y nyrsys ardal (a nyrsys â gradd meistr mewn nyrsio cymunedol) yn ôl i lefelau 2010, a’r tu hwnt i’r rheini, i fodloni'r galw.
• adfer cyfran cyllid GIG Cymru mewn practisau cyffredinol i lefelau hanesyddol, gydag uchelgais i’w chynyddu, fel ein bod yn hyfforddi, yn recriwtio ac yn cadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o feddygon teulu fesul 1000 o bobl.
4. Rhoi blaenoriaeth i ymyrraeth gynnar ac atal afiechyd. Mae angen i ofal brys ofal brys cynaliadwy gael ffocws cryf ar iechyd y boblogaeth a diagnosis cynnar er mwyn lleihau argyfyngau y gellir eu hosgoi.

Llofnodi’r ddeiseb hon

1,192 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon