Deiseb Mewnbwn Arbenigol Cynnar a Diwygio Mesurau Diogelu ar gyfer Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
Mae'r Cod ADY presennol yng Nghymru yn methu plant ag anghenion cymhleth fel Awtistiaeth, ADHD, a PDA. Heb fewnbwn arbenigol cynnar nac asesiadau diogelu, mae plant yn dechrau'r ysgol heb gymorth. Cafodd ein merch brofiad o flinder a thrawma awtistig cyn 5 oed. Mae teuluoedd yn cael eu gadael i frwydro ar eu pennau eu hunain tra bod cymorth hanfodol yn cael ei ohirio neu ei wrthod oherwydd diffygion yn y system a phrosesau aneglur.
Rhagor o fanylion
Er iddi gael diagnosis cyn dechrau'r ysgol, ni chafodd ein merch unrhyw asesiadau risg ffurfiol, cynllun diogelu, na mewnbwn arbenigol. Cafodd pryderon a godwyd cyn y trawsnewid eu diystyru, gan arwain at chwalfa llwyr mewn addysg ac iechyd meddwl. Nid oes gan ysgolion yr arbenigedd i ddrafftio Cynlluniau Datblygu Unigol cyfreithiol gadarn, ac mae awdurdodau addysg lleol yn aml yn gwrthod camu i mewn yn ddigon cynnar. Mae teuluoedd yn cael eu gorfodi i dalu am gymorth preifat neu wynebu rhestrau aros hir wrth i’w plant ddirywio. Rydym yn galw am fewnbwn Seicoleg Addysgol gorfodol i bob plentyn ag anghenion cymhleth cyn dechrau'r ysgol, cynlluniau diogelu clir yn seiliedig ar bryderon rhieni/proffesiynol, a chyfrifoldeb cynnar awdurdodau lleol am achosion cymhleth. Rhaid i'r system Cynlluniau Datblygu Unigol fod yn rhagweithiol, nid yn adweithiol—mae ein plant yn haeddu gwell.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd