Deiseb Cymorth brys ar gyfer perchnogion tai yn Hirwaun y mae concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) wedi effeithio arnynt

Ym mis Chwefror 2024, daethpwyd o hyd i RAAC mewn 77 o gartrefi ar ystâd Gŵyr (Gower estate) yn Hirwaun. Mae 14 o’r cartrefi hyn yn eiddo preifat a brynwyd drwy'r cynllun Hawl i Brynu. Mae’r trigolion bellach yn wynebu costau cyfartalog o £23,000 am waith atgyweirio dros dro, a hynny tra’n ceisio mynd i’r afael â pholisïau yswiriant annilys a thelerau morgais annheg. Mae RAAC yn ansefydlog ac yn dirywio'n gyflym, gan beri risgiau diogelwch difrifol. Ac eto, nid yw Trivallis na Chyngor Rhondda Cynon Taf wedi cynnig cymorth realistig.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ymyrryd, a darparu cymorth ariannol ac atebion hirdymor i berchnogion tai yr effeithir arnynt.

Rhagor o fanylion

Mae trigolion Hirwaun yn dod o gymunedau difreintiedig. Mae llawer wedi dod yn gaeth i’w morgeisi, gyda’u benthycwyr yn amharod i ailgyllido a darparwyr amgen yn gwrthod eu ceisiadau. Mae’r perchnogion tai hyn mewn sefyllfa ariannol hynod fregus, gan eu bod yn talu am bolisïau yswiriant cartref sy’n eithrio problemau sy’n gysylltiedig â RAAC, ac maent hefyd yn byw gyda’r bygythiad y bydd y to uwch eu pennau yn cwympo i lawr. Cafodd y cartrefi hyn eu hadeiladu’n rhad gan y cyngor lleol, cyn cael eu gwerthu i Trivallis, ac yna eu trosglwyddo i drigolion diarwybod drwy'r cynllun Hawl i Brynu diffygiol, a hynny heb unrhyw ddatgelu o ran y risgiau strwythurol sy’n gysylltiedig â RAAC.
Rhaid i Lywodraeth Cymru greu cronfa unioni genedlaethol, gan ddefnyddio ei phwerau datganoledig neu drwy bwyso ar Lywodraeth y DU am gymorth. Rhaid iddi hefyd lansio ymchwiliad cyhoeddus i’r methiannau hanesyddol hyn. Anwybyddwyd rhybuddion: er enghraifft, yn nhref Basildon yn y 1990au, cafodd dros 400 o adeiladau eu dymchwel yn sgil materion a oedd yn ymwneud â RAAC, ac yng Ngorllewin Lothian yn 2004, cafodd 86 o gartrefi eu condemnio.
Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu yn awr, drwy ailddiffinio rheoliadau adeiladu a safonau tai i orfodi gwarantau 50 mlynedd fel sicrwydd rhag deunyddiau diffygiol, a thrwy greu cofrestr eiddo risg uchel yng Nghymru i atal sgandalau yn y dyfodol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

37 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon