Deiseb a wrthodwyd Cyfreithloni Gwersylla Gwyllt yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer Faniau Gwersylla a Chartrefi Modur.

Dylid cyfreithloni gwersylla gwyllt cyfrifol yng Nghymru fel y gall selogion fwynhau popeth sydd gan y wlad i'w gynnig. Dylid caniatáu i bawb sy'n parchu byd natur a chefn gwlad eu mwynhau o dan amodau tebyg i Ddeddf Diwygio Tir (Yr Alban) 2003. Dylid gweithredu cod mynediad newydd i selogion lynu wrtho ynghyd â dyletswydd gofal. Mae'r cyfreithiau presennol yn cosbi'r rhai sy’n methu â fforddio talu am safleoedd gwersylla ac mae hyn yn rhwystro gweithgareddau awyr agored a gwariant mawr ei angen gyda busnesau bach ledled ein hardaloedd gwledig.

Rhagor o fanylion

Mae gwersylla gwyllt yn anghyfreithlon yng Nghymru ac mae hyn yn golygu bod selogion yn torri'r gyfraith wrth geisio mwynhau byd natur a harddwch Cymru. Rwyf am i'r Llywodraeth newid y gyfraith hon i sicrhau bod mwy o bobl yn mentro i fyd natur a hefyd i gyfrannu at dwf yr economi trwy wella twristiaeth mewn ardaloedd gwledig ar wahân i safleoedd gwersylla sydd â chynulleidfa gaeth. Byddai mwy o fusnesau bach yn ffynnu o dan y newid hwn.

Byddai creu rheolau newydd gyda fframwaith tebyg i Ddeddf Diwygio Tir (Yr Alban) 2003 yn annog gwersylla cyfrifol, gweithgareddau, addysg a chadwraeth o’n bywyd gwyllt a'n hamgylchedd lleol.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi