Deiseb a wrthodwyd Datgloi Potensial Llawn Gwyddonwyr Clinigol Ymgynghorol: Cysoni Rolau, Gwobrwyo’n Gyfartal

Datblygodd y GIG y rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr Arbenigol Uwch i alluogi Gwyddonwyr Clinigol i gyrraedd lefel ymgynghorol. Disgwylir i’r rhai sy’n cwblhau’r rhaglen ac yn ymuno â’r Gofrestr Gwyddonwyr Arbenigol Uwch arwain gwasanaethau, arloesi, a gwneud penderfyniadau clinigol annibynnol. Fodd bynnag, maent yn parhau i gael llai o gyflog, ymreolaeth a chydnabyddiaeth nag ymgynghorwyr meddygol, er bod ganddynt yr un lefelau o arbenigedd ac atebolrwydd.

Rhagor o fanylion

Mae Gwyddonwyr Clinigol Ymgynghorol yn darparu arweinyddiaeth glinigol, wyddonol a strategol lefel uchel. Mae GIG Cymru (2022) yn cadarnhau bod ganddynt gyfrifoldebau cyfatebol i ymgynghorwyr meddygol. Mae’r rhaglen yn gydnaws o ran cwmpas â FRCPath ac yn gofyn am hyfforddiant ar lefel doethuriaeth a chymwyseddau clinigol uwch. Serch hynny, mae llawer yn parhau i fod ar Fandiau Agenda ar gyfer Newid 8b–8d, o’i gymharu â chyflog cychwynnol o >£93,000 ar gyfer ymgynghorwyr meddygol (BMA, 2023). Mae Cynllun Gweithlu Hirdymor y GIG (2023) a’r Fframwaith Proffesiynol ar gyfer Ymarfer Clinigol Ymgynghorol yng Nghymru (AaGIC, 2022) yn hyrwyddo arweinyddiaeth amlbroffesiynol ac yn cydnabod yr angen i gyflogi staff ar frig eu trwydded. Heb gydraddoldeb, mae perygl y bydd y GIG yn colli’r gweithlu medrus iawn hwn a chyfleoedd allweddol i foderneiddio gwasanaethau a gwella canlyniadau cleifion.

Ysgol Genedlaethol Gwyddor Gofal Iechyd. (2023). Llawlyfr y Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr Arbenigol Uwch.

Addysg a Gwella Iechyd Cymru. (2022). Fframwaith Proffesiynol ar gyfer Ymarfer Clinigol Estynedig, Uwch ac Ymgynghorol yng Nghymru.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi