Deiseb Atal y pla o ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru.
Mae datblygwyr ledled Cymru yn fwriadol yn osgoi cydymffurfio â deddfwriaeth gynllunio ynghylch mabwysiadu ffyrdd, gan fod y Senedd wedi methu â diweddaru deddfwriaeth i alluogi’r llysoedd i weithredu’n ddigonol ar dorri rheolau cynllunio. Mae’n rhaid cael gwared ar y cap o £1,000 ar ddirwyon i ddatblygwyr diegwyddor am hysbysiadau tor amod cynllunio. Nid oes gan Loegr y broblem hon gan nad oes ganddyn nhw gap, felly pam ddylem ni gael cap?
Rhagor o fanylion
Fel cynifer o rai eraill, adeiladwyd yr ystâd rydym yn byw arni 12 mlynedd yn ôl, a methodd y datblygwr â pharatoi'r ffordd i'w mabwysiadu gan yr awdurdod lleol.
Bob tro y mae'r awdurdod lleol yn mynd â'r datblygwr i'r llys am dorri rheolau cynllunio, mae'r barnwr rhwystredig yn rhoi'r ddirwy uchaf y gall ei rhoi am fethu â chydymffurfio â phob 'hysbysiad tor amod', sef £1,000. Wrth i'r ffordd barhau i ddirywio, rydym wedi dod yn garcharorion yn ein cartrefi, yn methu â gwerthu oherwydd cyflwr y ffordd ac yn gwneud ein heiddo'n ddiwerth i bob pwrpas. Mae ein plant a'n henoed mewn perygl cyson o gael eu hanafu oherwydd tyllau enfawr yn y ffordd, mae ceir yn cael eu difrodi, ac mae cwmnïau dosbarthu a chasglwyr sbwriel wedi gwrthod dod i’r eiddo. Mae'r sefyllfa’n druenus.
Cefnogwch ein huchelgais i atal hyn rhag digwydd i unrhyw un arall yng Nghymru. Nid dyma oedd datganoli i fod…
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd