Deiseb Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cyllid teg i Gyngor Caerdydd i alluogi gwaith hanfodol ar Ysgol Gynradd Parc y Rhath

Mae Ysgol Gynradd Parc y Rhath yn ysgol sy’n 130 mlwydd oed, ac mae wedi'i gorchuddio â sgaffaldiau ers 2021, wedi i ddarn o'r to gwympo. Ers hynny, mae'r adeilad wedi dirywio ymhellach. Mae'r sgaffaldiau yn unig wedi costio £500,000. Mae’r ystafelloedd dosbarth yn dywyll ac yn oer. Mae'r palmant wedi'i rwystro, sy’n arwain at fod y man gan gollwng / codi plant yn beryglus. Mae'r ysgol mewn perygl o gau. Mae ar y cyngor angen cyllid digonol gan Lywodraeth Cymru fel y gall ymrwymo i amserlen i gwblhau'r gwaith. Mae perygl y caiff yr ysgol ei hanwybyddu nes ei bod hi'n rhy hwyr.

Llofnodi’r ddeiseb hon

648 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon