Deiseb Mae treillio ar wely’r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu’n bywyd gwyllt morol!
Mae ffilm ddogfen ddiweddaraf Syr David Attenborough, Oceans, yn tynnu sylw at y ffaith syfrdanol fod 97% o’n hardaloedd morol gwarchodedig – a grëwyd i ddiogelu cynefinoedd cefnforol – yn cael eu dinistrio trwy gael eu carthu a'u treillio ar wely’r môr.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd pob math o dreillio gwaelodol yn nyfroedd Cymru, gan longau tramor a'r DU fel ei gilydd. Rydym ni mewn argyfwng ecolegol ac mae angen gweithredu nawr.
Rhagor o fanylion
Os na awn ati i gymryd camau nawr, ni fydd gennym unrhyw obaith o atal y broses erchyll o golli bioamrywiaeth, na lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Mae'r arfer eang hwn o bysgota yn cynnwys llusgo rhwydi metel trwm ar hyd gwely'r môr, gan chwalu holl fywyd y môr sydd o’i flaen, i bob pwrpas!
Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod y system hon o bysgota yn allyrru un gigadunnell o garbon bob blwyddyn. Mae'r carbon hwn yn cael ei ryddhau o waddod gwely'r môr i'r dŵr, a gall gynyddu’r broses o asideiddio'r cefnforoedd, yn ogystal ag effeithio'n andwyol ar gynhyrchiant a bioamrywiaeth. Gwaddodion morol yw'r gronfa fwyaf o storio carbon yn y byd. Mewn gwirionedd, mae cychod pysgota sy'n treillio llawr y cefnfor yn rhyddhau cymaint o garbon deuocsid â'r diwydiant hedfan cyfan!
Does dim lle i dreillio gwaelodol mewn Cymru fodern sy’n gyfeillgar tuag at fyd natur!
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd