Deiseb a wrthodwyd Dod â’r opsiwn “Hawl i ddewis” i’r GIG yng Nghymru
Os ydych yn byw yn Lloegr, mae gennych bellach hawl gyfreithiol drwy’r GIG yno i ddewis eich darparwr gofal iechyd meddwl eich hun, yn ogystal â’ch tîm gofal iechyd meddwl. Mae’r hawl bwysig hon yn golygu, er enghraifft, os ydych yn penderfynu bod yr amser aros ar gyfer eich asesiad ADHD yn rhy hir, y gallwch ddewis troi at ddarparwyr amgen sy’n cydymffurfio â safonau a chostau’r GIG.
Yn fy marn i, mae trigolion Cymru yn haeddu’r un cyfle, yn hytrach na gorfod aros am flynyddoedd neu wario miloedd o bunnoedd ar ddiagnosis preifat.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi