Deiseb a wrthodwyd Darparu e-feiciau i fyfyrwyr yn y chweched dosbarth a’r coleg i'w helpu i gyrraedd yr ysgol neu'r coleg
Mae llawer o fyfyrwyr yng Nghaerdydd, a ledled Cymru, yn wynebu heriau dyddiol o ran cyrraedd yr ysgol neu'r coleg oherwydd diffyg trafnidiaeth fforddiadwy a dibynadwy. I rai, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ddrud neu'n afreolaidd ac mae eraill yn byw mewn ardaloedd lle nad yw cerdded pellteroedd hir yn ymarferol, yn enwedig mewn tywydd garw. Mae'r sefyllfa hon nid yn unig yn effeithio ar brydlondeb a pherfformiad academaidd, mae hefyd yn effeithio ar lesiant ac annibyniaeth gyffredinol pobl ifanc.
Rhagor o fanylion
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhaglen beilot ar gyfer cymhorthdal neu fenthyg e-feiciau i fyfyrwyr mewn angen. Y nod yw sicrhau nad oes unrhyw fyfyriwr yn cael ei ddal yn ôl gan heriau trafnidiaeth. Trwy gefnogi'r fenter hon, gallwch helpu i greu dyfodol mwy cynhwysol, hygyrch a chynaliadwy i bobl ifanc yng Nghymru.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi