Deiseb Cael gwared ar y system gyllido ystrywus sy'n gorfodi myfyrwyr i astudio Bagloriaeth Cymru
Ioan Armstrong a Sam Bartlett: Rydym yn fyfyrwyr Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr, Campws y Graig, Llanelli, ac rydym wedi dechrau’r ddeiseb hon fel llwyfan o blaid dewis myfyrwyr ac yn erbyn cymhwyster gorfodol Bagloriaeth Cymru.
Er gwaethaf yr honiadau gan Lywodraeth Cymru nad yw'r cymhwyster hwn yn orfodol, gwnaethom ddarganfod cynllun cyllido ystrywus drwy Gais Rhyddid Gwybodaeth sy'n dangos bod colegau'n derbyn £1,000+ mewn cyllid ychwanegol fesul myfyriwr trwy orfodi Bagloriaeth Cymru arnynt.
Rhagor o fanylion
Cais Rhyddid Gwybodaeth: £3,606/myfyriwr am 3 chymhwyster Safon Uwch/UG heb gymhwyster Bagloriaeth Cymru, £4620/myfyriwr am 3 chymhwyster Safon Uwch/UG + cymhwyster Bagloriaeth Cymru.
Ymchwil y Senedd: Yn ôl y myfyrwyr a ymatebodd i’r ymgynghoriad, mae Bagloriaeth Cymru yn “cymryd llawer o amser” ac nid ydynt yn gweld gwerth y cymhwyster.
Comisiynydd Plant Cymru: Roedd yn feirniadol o darged Llywodraeth Cymru o fabwysiadu Bagloriaeth Cymru yn gyffredinol (“target of universal adoption”). NID yw mabwysiadu Bagloriaeth Cymru yn gyffredinol er budd gorau pob dysgwr ifanc.
Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014: Mae’r Ddeddf hon yn sicrhau ansawdd ac atebolrwydd mewn addysg bellach, ond mae wedi’i thanseilio gan bwysau ariannol a diffyg eglurdeb o ran statws Bagloriaeth Cymru fel cymhwyster nad yw'n orfodol.
Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022: Mae’r Ddeddf hon yn nodi disgwyliad cyfreithiol clir bod sefydliadau’n darparu addysg o’r ansawdd uchaf posibl. Mae’r Ddeddf wedi’i thanseilio oherwydd bod colegau'n cael eu cosbi'n ariannol os nad yw myfyrwyr yn cofrestru i astudio Bagloriaeth Cymru.
Mae WalesOnline wedi cyhoeddi erthygl am ein hymgyrch.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd