Deiseb Cynhyrchu Bil Dŵr Glân i Gymru ac Afonydd Cymru.
Mae ein hafonydd yn gweiddi am gymorth. Nid oes gennym lawer o amser cyn y bydd hi'n rhy hwyr i'w hachub.
Ers gormod o amser, mae deddfwyr, rheoleiddwyr a llygrwyr wedi siarad am amddiffyn ein hafonydd, ond does dim byd ystyrlon byth yn cael ei wneud.
Rydym yn galw ar Aelodau o’r Senedd i ymrwymo i gynhyrchu Bil Dŵr Glân i Gymru.
Rhagor o fanylion
Bydd y Bil Dŵr Glân yn:
• Gosod fframwaith uchelgeisiol o dargedau cyfreithiol rhwymol ar gyfer bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr
• Sicrhau bod rheoleiddiwr sy'n addas i’r diben yn cael ei benodi ac sy'n dwyn pob llygrydd i gyfrif yn gyfartal
• Cyhoeddi trwyddedau newydd sy'n ystyrlon ac sy'n:
- ehangu'r ystod o lygryddion sy'n gorfodi camau gweithredu
- arwain at ganlyniadau sylweddol am dorri terfynau trwydded
• Cynnal adolygiad o'r ffordd y mae cwmnïau dŵr yn gweithredu yng Nghymru
• Sicrhau gorfodi darpariaethau Deddf Dŵr (Mesurau Arbennig) 2025
• Sicrhau bod pob afon a ddynodwyd yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yn cael ei phrofi yn unol â’r Rheoliadau Ansawdd Dŵr Ymdrochi
• Gweithio gyda Ffermwyr i annog cynhyrchu bwyd heb greu dŵr ffo maetholion
Rhaid i'r Bil Dŵr sicrhau gweithredu yn hytrach na geiriau, a blaenoriaethu natur yn hytrach nag elw ar bob cyfrif. Dylai dinasyddion wyddonwyr, cymunedau lleol a defnyddwyr afonydd gael eu cynnwys yn y pwyllgor sy'n llunio'r bil.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd