Ni chaiff y wefan ddeisebau ei fonitro rhwng 22 Rhagfyr a 4 Ionawr. Fe fyddwn yn ystyried eich deiseb ac ymateb i ymholiadau cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.

Deiseb a gaewyd Rhowch y cyffur Xonvea ar y rhestr fformiwlâu ar gyfer rheoli cyfog a chwydu yn ystod beichiogrwydd

Mae Canllawiau Greentop Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr ar gyfer rheoli cyfog a chwydu yn ystod beichiogrwydd yn argymell Xonvea fel triniaeth llinell gyntaf effeithiol ar gyfer rheoli salwch difrifol yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw ar y rhestr fformiwlâu yng Nghymru. Mae Hyperemesis Gravidarum yn gyflwr difrifol sy'n effeithio ar tua 3% o fenywod beichiog; bydd un o bob 10 menyw â HG yn terfynu eu beichiogrwydd a bydd un o bob pedair yn ystyried hunanladdiad. Mae Xonvea yn driniaeth ddiogel ac effeithiol. Gofynnwn i AWMSG adolygu ei argymhelliad.

Rhagor o fanylion

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,097 llofnod

Dangos ar fap

10,000