Deiseb a wrthodwyd Dylid creu gofyniad bod paneli solar yn cael eu gosod ar bob cartref newydd yng Nghymru, a hynny fel amod o sicrhau caniatâd cynllunio.
Yn dilyn penderfyniad Lloegr i osod paneli solar ar bob cartref newydd, credwn y dylai pob cartref newydd yng Nghymru hefyd gael paneli solar fel amod ar gyfer caniatâd cynllunio.
Mae'r byd yn wynebu argyfwng ynni, ac rydym i gyd yn wynebu argyfyngau brawychus o ran yr hinsawdd a byd natur. Dyma pam mae mor bwysig bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd o ran sicrhau ffynonellau ynni adnewyddadwy yn y dyfodol.
Rhagor o fanylion
Mae nifer o fanteision amgylcheddol ynghlwm wrth ddefnyddio paneli solar. Maent yn cynhyrchu ynni gwyrdd, ac nid ydynt yn creu allyriadau wrth wneud hynny.
#1 Maent yn lleihau'r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio o'r Grid Cenedlaethol. Maent yn lleihau tlodi ynni ac yn ein helpu ni i gadw’r goleuadau ymlaen.
#2 Nid ydynt yn creu allyriadau. Gallant leihau ôl troed carbon eich cartref 80 y cant mewn blwyddyn.
#3 Maent yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae ynni solar yn fath o ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn golygu bod digon ohono i bawb ei rannu, gan ei fod yn ffynhonnell o ynni na fydd yn dod i ben (nid am biliynau o flynyddoedd, beth bynnag). Mae tanwyddau ffosil yn ffynonellau cyfyngedig o ynni, ac rydym yn niweidio'r blaned pan fyddwn yn cloddio amdanynt ac yn eu dosbarthu.
#4 Maent yn para am amser hir ac nid oes angen llawer o waith cynnal a chadw arnynt, os o gwbl. Mae angen ailosod unedau gwresogi confensiynol a gwneud gwaith cynnal a chadw arnynt yn gymharol reolaidd. Gall hyn achosi llawer o wastraff nad yw'n ecogyfeillgar, yn ogystal â chynyddu'r angen am fwy o unedau. Gan fod paneli solar yn para tua 50 mlynedd, ni ddylai fod angen i chi eu hadnewyddu am amser hir.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi