Ni chaiff y wefan ddeisebau ei fonitro rhwng 22 Rhagfyr a 4 Ionawr. Fe fyddwn yn ystyried eich deiseb ac ymateb i ymholiadau cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.

Deiseb a gaewyd Ymrwymo i gefnogi dyfodol Ysgol Gymraeg Llundain

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod am dynnu ei grant blynyddol o £90,000 yn ôl o fis Mawrth 2026. Heb y grant hwn, bydd yr ysgol yn cau gan chwalu’r modd mwyaf effeithiol o hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn Llundain.

Rhagor o fanylion

Daw’r grant o strategaeth ‘Cymraeg 2050’, sy’n anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y £90k hwn yn dal i gael ei ddefnyddio i hyrwyddo'r iaith yn Llundain, ond nid yw wedi rhoi manylion ynghylch sut yn union. Mae'n amlwg mai y ffordd orau o hyrwyddo unrhyw iaith yw addysgu y genhedlaeth nesaf o siaradwyr rhugl. Mae'r ysgol yn dod dros effeithiau covid ac yn tyfu mewn nifer. Nawr yw'r amser i fuddsoddi yn nyfodol yr ysgol, nid i dorri'r cyllid yn ôl.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

1,837 llofnod

Dangos ar fap

10,000