Deiseb a wrthodwyd Comisiynu adolygiad annibynnol i farwolaethau alcohol a chyffuriau Hywel Dda a galw am ddata tryloyw nawr
Mae Cymru’n wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus digynsail. Yn 2023, cyrhaeddodd marwolaethau gwenwyno gan gyffuriau y lefel uchaf erioed o 377, a chyrhaeddwyd record o 562 o ran marwolaethau penodol yn ymwneud ag alcohol. Mae'r drasiedi hon yn cael ei theimlo'n ddifrifol yn rhanbarth Hywel Dda, lle mae cymunedau'n colli anwyliaid ar gyfradd frawychus.
Rhagor o fanylion
Galwodd Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG Llywodraeth Cymru am atebolrwydd “mwy miniog” a mwy o dryloywder data. Rydym yn mynnu bod yr egwyddorion hyn yn cael eu cymhwyso i'r argyfwng camddefnyddio sylweddau nawr.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
Comisiynu adolygiad annibynnol brys ar fethiannau systemig ar draws llwybrau camddefnyddio sylweddau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda phwerau i argymell newidiadau rhwymol.
Mandadu cyhoeddi adroddiadau dienw blynyddol ar farwolaethau gan yr holl Fyrddau Iechyd ac awdurdodau lleol ar unigolion mewn cysylltiad â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.
Datblygu a chyhoeddi strategaeth camddefnyddio sylweddau cenedlaethol newydd i gyd-fynd â graddfa'r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol.
Dylai’r data gynnwys:
• Adroddiadau dienw blynyddol ar ddigwyddiadau niweidiol sylweddol ar gyfer unigolion sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau, yn ogystal ag achosion o hunan-niweidio neu orddos lle roedd gwasanaethau’n rhan ohonynt. Byddai hyn yn rhoi mewnwelediad hanfodol i'r effeithiau uniongyrchol ar iechyd unigolion ac effeithiolrwydd llwybrau gofal y tu hwnt i farwolaethau yn unig.
• Data tryloyw ar brosesu a chanlyniadau pob cwyn gan gleifion sy'n ymwneud â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, yn benodol yn manylu ar faterion sy'n ymwneud â darparu gofal, cyfathrebu, a chywirdeb neu gyflawnrwydd cofnodion cleifion. Byddai hyn yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r alwad am atebolrwydd "mwy miniog" ac yn meithrin ymddiriedaeth yn y gwasanaethau.
Mae'r diffyg tryloywder yn beryg bywyd. Ni fyddwn yn derbyn oedi, gogwydd, na distawrwydd.
Y gwirionedd. Atebolrwydd. Nawr.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi