Deiseb Helpu cyplau ar incwm isel a budd-daliadau sydd wedi dyweddïo am y tro cyntaf i briodi

Mae priodi yn un o gerrig milltir arwyddocaol bywyd, ond mae llawer o gyplau ar incwm isel neu fudd-daliadau yng Nghymru sy’n priodi am y tro cyntaf yn wynebu rhwystrau ariannol i ddathlu eu huniad. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynlluniau cymorth neu grantiau i helpu i dalu costau hanfodol priodi, i sicrhau y gall pob cwpl briodi ag urddas, ni waeth beth fo'u hincwm. Bydd gwneud hyn yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn atgyfnerthu teuluoedd, ac yn cefnogi cydlyniant cymunedol.

Rhagor o fanylion

Mae llawer o gyplau yng Nghymru sydd ar incwm isel neu fudd-daliadau yn ei chael yn anodd fforddio costau sylfaenol priodas ac yn aml yn gohirio eu priodas neu’n peidio â phriodi o gwbl. Gall priodas fach gostio miloedd, sy’n golygu eu bod yn rhy ddrud i lawer. Mae priodas yn hawl gyfreithiol ac yn sylfaen ar gyfer teuluoedd a chymunedau sefydlog. Byddai darparu grantiau neu gynlluniau ariannu i gefnogi cyplau incwm isel yn meithrin cydraddoldeb cymdeithasol, yn gwella llesiant meddwl, ac yn hybu economïau lleol trwy leoliadau a gwasanaethau. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cronfa gymorth bwrpasol, i sicrhau nad yw caledi ariannol yn rhwystr i ymrwymiad gydol oes. Mae ymchwil gan elusennau cenedlaethol yn tynnu sylw at ganlyniadau cymdeithasol cadarnhaol partneriaethau sefydlog, ond mae allgáu ariannol yn parhau. Credwn na ddylai cariad ac ymrwymiad gael eu cyfyngu gan incwm.

Llofnodi’r ddeiseb hon

4 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon