Deiseb a wrthodwyd Defnyddio'r sillafiad Cymraeg ar gyfer enwau lleoedd yng Nghymru, lle bo hynny'n addas
Am rhy hir, mae llu o leoliadau ledled ein gwlad wedi gorfod dioddef newid eu henw’n ddiangen o'r Gymraeg i'r Saesneg - ac yn fwy penodol - newidiadau diangen i’r sillafiadau gwreiddiol.
Nawr, onid yw'n bryd defnyddio'r sillafiad cywir, gwirioneddol Gymraeg a Cheltaidd o’r enw? Os ydym am barhau i gadw, tyfu a rhannu ein hiaith gyda'r byd, dylem wneud y pethau bychain!
Rhagor o fanylion
Er enghraifft, Aberafan ac Aberavon, Sgeti a Sketty, Caerffili a Caerphilly.
Ymhellach i’r gogledd, mae llefydd fel Ynys Môn wedi gorfod dioddef enwau amgen Saesneg sy’n gwbl ddiystyr i'w hunaniaeth a'u henw hanesyddol a gwirioneddol Gymreig.
P'un a ydym yn dechrau gyda'r sillafiadau yn unig neu'n dychwelyd yn ôl i'r Gymraeg yn gyfan gwbl ar gyfer llefydd eraill, does dim ots. Gadewch inni ddod â balchder yn ôl yn ein treftadaeth a'n hanes.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi