Deiseb Dylai Llywodraeth Cymru ariannu ffordd liniaru Llanbedr!
Cafodd ffordd liniaru Llanbedr ei chanslo gan Lywodraeth Cymru, a addawodd ffordd newydd i Lanbedr wedyn. Nawr bod cynlluniau'n cael eu cwblhau, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu'r ffordd newydd a addawyd.
Mae'r gymuned ei hun yn byw mewn ofn, mae'r sefyllfa drafnidiaeth i dwristiaid yn enbyd, ac fe gafodd yr ateb a oedd gennym ni ei sgubo o'r neilltu gennych chi. Rydym ni, cymuned Llanbedr, ymwelwyr â Llanbedr, a'r rhai sy'n teithio drwy’r pentref, yn anfon deiseb atoch er mwyn i chi gymryd cyfrifoldeb ac ariannu'r ffordd.
Rhagor o fanylion
Addawodd Llywodraeth Cymru “gynllun enghreifftiol” i gymuned Llanbedr ar ôl iddi ganslo’r datrysiad wedi’i ariannu a oedd ar fin dechrau. Addawodd weithio gyda'n Sir i ddarparu ffordd llawer gwell - addawyd "ffordd liniaru cyflymder isel". Nawr bod y cynlluniau bron yn barod, fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth eisiau rhoi'r gorau i'w chyfrifoldeb a throsglwyddo'r cyfrifoldeb ariannu i gorff arall, ac mae am i'n cymuned ni "ymgeisio" am gyllid. Rydym yn teimlo mai eich cyfrifoldeb chi yw ariannu'r ffordd. Nid yw gwthio ein cymuned i sefyllfa loteri nawr yn deg nac yn gyfiawn.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd