Deiseb Tynnu arian Llywodraeth Cymru oddi ar ŵyl y Dyn Gwyrdd os na chaiff Kneecap eu dileu o’r rhestr o berfformwyr.
Mae gŵyl y Dyn Gwyrdd sydd i’w chynnal ym mis Awst 2025 yn cael llawer o arian gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys defnyddio’r tir a brynwyd gan Lywodraeth Cymru am £4 miliwn. Os bydd trefnwyr yr ŵyl yn gwrthod dileu Kneecap o’r rhestr o berfformwyr, ni ddylai Llywodraeth Cymru roi unrhyw arian i’r trefnwyr, ac ni ddylai ganiatáu iddynt ddefnyddio’r tir, ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol. Mae Kneecap wedi arddangos ymddygiad gwrthsemitig ar lwyfannau yn ddiweddar, gan gynnwys ennyn trais yn erbyn Aelodau Seneddol.
Rhagor o fanylion
Mae Cymru'n hyrwyddo ei hun fel lle croesawgar i bawb. Siaradodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig â rhai o’r gymuned Iddewig yng Nghymru a oedd wedi teimlo’n drallodus ac yn ofnus ar ôl y digwyddiadau yn Glastonbury eleni. Os bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu’r digwyddiad hwn, beth yw’r neges i’r gymuned Iddewig yng Nghymru?
Mae deisebau blaenorol a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd Kneecap o’r ŵyl wedi cael eu gwrthod oherwydd nad oes gan Lywodraeth Cymru lais o ran pwy sy’n perfformio yn y digwyddiad. Mae gan Lywodraeth Cymru lais o ran i bwy mae’n rhoi arian, fodd bynnag. Mae angen egluro’n gadarn i drefnwyr gŵyl y Dyn Gwyrdd na fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r digwyddiad yn y dyfodol, gan gynnwys defnyddio’r tir a brynwyd gan Lywodraeth Cymru, os ydynt am lwyfannu perfformwyr mor atgas.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd