Deiseb a wrthodwyd Diddymu’r Gymraeg fel pwnc TGAU gorfodol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru

Rydym yn credu na ddylai'r Gymraeg fod yn bwnc TGAU gorfodol mwyach mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Nid yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn defnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd, a gallai amser gwerthfawr gael ei dreulio yn well yn dysgu sgiliau bywyd go iawn fel trethi, cyllid ac iechyd meddwl. Dylid cynnig y Gymraeg fel opsiwn, nid ei gorfodi ar bawb. Dylai addysg adlewyrchu'r byd go iawn a rhoi dewis i fyfyrwyr. Mae'n bryd diwygio'r cwricwlwm ar gyfer dyfodol mwy perthnasol.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi