Deiseb a wrthodwyd Dewch â Bwrdeistref Islwyn yn ôl

Ym 1996 unwyd bwrdeistref Islwyn, yn groes i ddymuniadau ei thrigolion, â Chaerffili ac ers hynny mae wedi bod yn rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gydag effeithiau trychinebus.

Roedd Islwyn bob amser yn gyngor ffyniannus ac roedd yn gwneud yn siŵr y gofalwyd am ei fwrdeistref gyfan. O dan Gaerffili rydym wedi gweld gostyngiad cyson yn ein gwasanaethau sydd ar gael tra bod mwy a mwy o arian yn cael ei wario yn nhref Caerffili a'r cyffiniau, ac mae'n amser am newid.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi