Deiseb a wrthodwyd Anogwch Amgueddfa Cymru i greu arddangosfa i goffáu Treftadaeth Bocsio Cymru!
Mae treftadaeth Cymru yn y byd bocsio yn gyfoethog, yn enwedig yn y de diwydiannol, gan gynhyrchu ymladdwyr chwedlonol a chyfrannu at reolau'r gamp. Mae eiconau fel Jimmy Wilde, Jim Driscoll, Freddie Welsh, Johnny Owen, Howard Winstone, Tommy Farr, Joe Calzaghe, a Lauren Price wedi denu cydnabyddiaeth ryngwladol. Cafodd Rheolau Queensbury, sef sylfaen bocsio modern, eu drafftio gan John Graham Chambers, a anwyd yn Llanelli. Mae'r hanes pwysig hwn yn haeddu cydnabyddiaeth a choffâd cenedlaethol.
Rhagor o fanylion
Mae creu arddangosfa bwrpasol yn Amgueddfa Cymru yn hanfodol i ddiogelu a dathlu treftadaeth bocsio unigryw Cymru. Fel y nododd Nelson Mandela, "Mae gan chwaraeon y pŵer i newid y byd", gan gynnig gobaith, disgyblaeth a chydlyniant, yn enwedig yn ein cadarnleoedd diwydiannol. Er bod Cymru wedi meithrin pencampwyr y byd, mae creiriau ffisegol a safleoedd eiconig fel y Royal Oak a Ronnie's Gym yn diflannu. Mae colli'r lleoliadau hanesyddol hyn, a oedd unwaith yn ganolfannau diwylliannol hanfodol, yn lleihau ein cof cyfunol a straeon yr ymladdwyr a gafodd eu meithrin ynddynt.
Byddai'r arddangosfa arfaethedig yn anrhydeddu ffigurau anfarwol ac yn gweithredu fel storfa hanfodol ar gyfer y creiriau coll hyn, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â phencampwyr fel Steve Robinson a Winston Burnett. Byddai'n gam hollbwysig tuag at sicrhau bod ysbryd bocsio yng Nghymru, sy'n ffynnu mewn cymunedau a champfeydd lleol, yn cael cydnabyddiaeth briodol. Byddai’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at rôl bwysig bocsio o ran llunio hunaniaeth Gymreig a phŵer parhaol y gamp i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi