Deiseb Cydnabod a hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol UFO/UAP Cymru ar gyfer twristiaeth a deialog agored.

Mae hanes cyfoethog yng Nghymru o weld ffenomenau awyrol heb esboniad (UAP), yn enwedig o fewn yr ardal a elwir yn Driongl Dyfed. Mae digwyddiadau fel yr hyn a gafwyd yn Ysgol Aberllydan ym 1977 a'r ffenomenau rhyfedd yn ymwneud â Ffermdy Ripperston yn rhan annatod o ddiwylliant poblogaidd Cymru. Er bod ymchwiliadau swyddogol yn aml wedi darparu esboniadau confensiynol, mae diddordeb y cyhoedd yn parhau’n frwd. Mae'r hanesion hyn yn cynnig cyfle sylweddol i hybu twristiaeth ac i feithrin deialog agored.

Rhagor o fanylion

Mae'r cofnod hanesyddol o weld ffenomenau awyrol heb esboniad (UAP) yng Nghymru yn helaeth, gan gynnwys “Roswell Cymru” ar Fynyddoedd y Berwyn ac achos UAP Sain Tathan yn 2008. Yn yr 1980au cafwyd ‘noson y trionglau hedegog’, sef cyfres o achosion o weld pethau heb esboniad, a gadarnhawyd ledled De Cymru, ac a ddogfennwyd yn fanwl gan Rwydwaith UFO Abertawe. Yn fwy diweddar, mae digwyddiadau ‘Ymarfer Cameleon’ Pentyrch yn 2016 wedi ychwanegu at yr hanes cyfoethog hwn.
Mae presenoldeb hanesyddol Walter Dornberger, sef ffigwr allweddol yn ‘Operation Paperclip’ ac fel ymchwilydd i awyrennau anghonfensiynol yr Almaen, a gaethiwyd yng ngwersyll carcharorion rhyfel Island Farm, yn ychwanegu at y dirgelwch hwn.
Rydym yn annog Senedd Cymru i gydnabod y digwyddiadau diwylliannol arwyddocaol hyn. Drwy edrych yn fanwl ar bosibiliadau o ran twristiaeth y dreftadaeth unigryw hon, gall Llywodraeth Cymru ddenu ymwelwyr a chreu manteision economaidd. Rydym yn gofyn am ddeialog agored ynghylch yr achosion hyn, gan gynnwys barn haneswyr, selogion awyrenneg, a'r cyhoedd, er mwyn manteisio'n llawn ar yr agwedd hon ar dreftadaeth Cymru.

Llofnodi’r ddeiseb hon

11 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon