Deiseb Ymestyn Safonau’r Gymraeg i Gynghorau Tref a Chymuned
Ar hyn o bryd, nid yw safonau’r Gymraeg yn ymestyn i Gynghorau Tref a Chymuned, er bod gan nifer ohonynt gyllidebau mawr a’u bod yn darparu ystod o wasanaethau i'w cymunedau. Mae hi'n hen bryd i Lywodraeth Cymru gyflwyno rheoliadau sy’n gosod dyletswyddau ar Gynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru o ran y Gymraeg.
Rhagor o fanylion
Hefyd, mae’n rhaid edrych eto ar ba wasanaethau y mae Cynghorau Tref a Chymuned yn eu darparu ar ran y Cynghorau Sir. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o waith sy’n cael ei wneud gan Gynghorau Tref a Chymuned sy’n gweithredu’n ddwyieithog mewn ardaloedd di-Gymraeg. Mae safonau iaith wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Y gwir ydy bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol ymysg y cyrff cyhoeddus hynny sydd wedi’u heithrio o'r safonau ac yn gwneud dim i hyrwyddo’r iaith. Mae’n rhaid cryfhau ac ymestyn y canllawiau.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd