Deiseb Sicrhau Ariannu Teg ar gyfer Darparwyr Gofal Cymdeithasol Elusennol
Mae Anheddau Cyf yn elusen hir-sefydlog nid-er-elw sy’n cefnogi dros 140 o bobl ar draws Gogledd Cymru sydd ag anableddau dysgu. Am 35 mlynedd, mae Anheddau wedi grymuso unigolion i fyw’n annibynnol mewn cartrefi wedi’u rhannu, ac wedi’u gwreiddio mewn bywyd cymunedol. Mae ei ymrwymiad i ofal o safon uchel, sy’n canoli ar y person wedi ennill clod uchel gan Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Chwefror 2025, ac ymddiriedaeth teuluoedd ar draws y rhanbarth (1).
Rhagor o fanylion
Mae darparwyr gofal elusennol yn wynebu straen ariannol difrifol oherwydd costau cynyddol a than-ariannu gan awdurdodau lleol. Er gwaethaf cyllid gan Lywodraeth Cymru, nid yw llawer o hyn yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen fel Anheddau. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau y caiff cyllid llawn ei basio’n uniongyrchol iddynt, gorfodi safonau comisiynnu teg, ymgysylltu â darparwyr o ran effeithiau cyllido, ac ymrwymo i ddiwygio hirdymor er mwyn diogelu gwasanaethau gofal hanfodol a’r bobl sy’n dibynnu arnynt.
1. https://www.theyworkforyou.com/senedd/?id=2025-07-01.2.692611
2. https://cyfraith.llyw.cymru/cyfansoddiad-llywodraeth/deddfu-yng-nghymru/sut-mae-llywodraeth-ddatganoledig-yng-nghymru-yn-cael
3. https://www.llyw.cymru/hysbysiadau/chwilio
4. https://www.theyworkforyou.com/senedd/?id=2025-03-04.8.660018.h
5. https://www.llyw.cymru/cyllid-ychwanegol-i-helpu-awdurdodau-lleol
6. https://nation.cymru/news/nobody-taking-responsibility-for-paying-care-workers-the-real-living-wage/
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd