Deiseb Gwella'r nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio'r fron i fenywod yng Nghymru

Mae sgrinio'r fron yn achub bywydau rhag canser y fron. Ond mae targedau ar gyfer menywod sy'n cael eu sgrinio yng Nghymru yn cael eu methu. Yn 2022-23, dim ond 69.5% o fenywod a wahoddwyd i sgrinio a ddefnyddiodd eu hapwyntiad - sy’n is nag isafswm y safon o 70% a'r targed o 80%.

Pe bai'r targed o 80% yn cael ei gyrraedd, byddai 15,871 yn fwy o fenywod wedi cael eu sgrinio ac amcangyfrifir y byddai 154 yn fwy o ganserau'r fron wedi'u canfod.

Rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bron Brawf Cymru i wella'r nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio'r fron, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau.

Rhagor o fanylion

Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i wella'r nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio'r fron yng Nghymru er mwyn cyrraedd isafswm y safon o 70% yn gyson a chyrraedd y targed o 80%.

Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at sgrinio’r fron, sy'n effeithio ar gymunedau ethnig lleiafrifol, y rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol a grwpiau na chânt eu gwasanaethu. Daw Strategaeth Tegwch Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru 2022–25 i ben eleni.

Er mwyn gwella’r nifer sy’n gwneud defnydd, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, dylai Llywodraeth Cymru roi cymorth ac adnoddau i Bron Brawf Cymru a’i alluogi i:
• Gyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth sgrinio'r fron, gyda ffocws ar ardaloedd a chymunedau lle mae niferoedd y defnydd yn isel
• Darparu llwybrau mwy cyfleus a hyblyg i wasanaethau sgrinio’r fron, gan gynnwys mwy nag un opsiwn i drefnu apwyntiadau
• Gwella’r gwaith o adrodd ar ddata ac atebolrwydd trwy gyhoeddi data rheolaidd am y nifer sy’n gwneud defnydd rheolaidd, gan gynnwys grwpiau ethnig lleiafrifol a rhai na chânt eu gwasanaethu

Dylid cynnwys y camau hyn mewn Strategaeth Tegwch Sgrinio newydd.

Llofnodi’r ddeiseb hon

764 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon