Deiseb Cynnal Hawl Plant ADY i Gymorth yn Seiliedig ar Anghenion ac Addysg Llawn Amser yng Nghymru

🚨 Mae plant ag ADY yn cael eu gwrthod rhag cael addysg a chymorth amser llawn yng Nghymru — oni bai bod ganddyn nhw ddiagnosis ffurfiol.
Mae hyn yn groes i gyfraith Cymru, sy'n dweud bod rhaid i gymorth fod yn seiliedig ar angen, nid diagnosis.

Rhagor o fanylion

Er gwaethaf darpariaethau clir yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Cod ADY, mae llawer o awdurdodau lleol yn gwrthod darparu cymorth oni bai bod gan blentyn ddiagnosis ffurfiol. Nid yn unig y mae hyn yn anghyfreithlon — gan fod y gyfraith yn nodi bod yn rhaid i gymorth fod yn seiliedig ar angen — ond mae hefyd yn arwain at wrthod addysg amser llawn i blant, eu gadael ar amserlenni llai, neu allan o'r ysgol yn gyfan gwbl.
Fel rhiant i blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol, rwyf wedi gweld, o brofiad uniongyrchol, pa mor anodd yw cael mynediad at gymorth yng Nghymru oni bai bod diagnosis ffurfiol ar waith. Mae hyn yn mynd yn uniongyrchol yn erbyn cyfraith Cymru, sy'n nodi'n glir bod rhaid i ddarpariaeth fod yn seiliedig ar anghenion. Mae fy mhlentyn, fel llawer o rai eraill, wedi cael ei wrthod o’r cymorth a’r addysg amser llawn y mae'n ei haeddu — nid oherwydd bod ei anghenion yn aneglur, ond oherwydd bod y system yn rhoi blaenoriaeth anghywir i ddiagnosis dros gymorth.

Llofnodi’r ddeiseb hon

395 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon